SL(6)148 - Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio'r rheoliadau cymorth i fyfyrwyr a ganlyn:

              Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007;

              Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014;

              Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015;

              Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017; a

              Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018.

Yn benodol, mae’r diwygiadau a wnaed gan y Rheoliadau hyn yn:

              sicrhau bod unigolion, sy’n cael caniatâd i ddod i’r wlad neu i aros fel dinasyddion perthnasol Affganistan ac aelodau o'u teulu o dan gynlluniau mewnfudo’r Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid (ARAP) a Chynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan (ACRS), yn gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr, statws ffioedd cartref a’r cap ar ffioedd dysgu;

              sicrhau bod myfyrwyr o Diriogaethau Dibynnol ar y Goron sy’n astudio cwrs addysg uwch yng Nghymru yn gymwys ar gyfer statws ffioedd cartref a’r cap ar ffioedd dysgu;

              cynyddu maint y cymorth i israddedigion (grant myfyrwyr anabl, grantiau i ddibynyddion (gan gynnwys grant gofal plant) a benthyciad cynhaliaeth);

              lleihau swm y grant ffioedd dysgu a chynyddu swm y benthyciad ar gyfer ffioedd dysgu i'r myfyrwyr hynny a ddechreuodd eu cyrsiau ar 1 Medi 2012 neu ar ôl y dyddiad hwnnw, ond cyn 1 Awst 2018, yn ôl y gyfradd chwyddiant a ragwelir, fel nad yw'r cymorth cyffredinol ar gyfer ffioedd dysgu yn newid;

              sicrhau y bydd myfyrwyr ar y Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu yn cael yr un cymorth â'r rhai ar gynllun Erasmus+ a’r Cynllun Turing a sefydlwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg;

              dileu cyfeiriadau at y 'cyfnod gras' mewn perthynas â’r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yn y rheoliadau cymorth i fyfyrwyr israddedig; a

              sicrhau bod myfyrwyr sy’n astudio cwrs ôl-raddedig mewn gwaith cymdeithasol ac yn cael bwrsariaeth gwaith cymdeithasol yn gymwys i wneud cais am Grant i Fyfyrwyr Anabl os yw’r cwrs yn dechrau ar 1 Awst 2022 neu ar ôl y dyddiad hwnnw.

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

1. Rheol Sefydlog 21.2 – ei bod yn ymddangos bod y gwaith drafftio yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Mae rheoliad 18(b) yn ceisio diwygio rheoliad 27(9)(a) o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 drwy amnewid uchafswm y ffioedd gofal plant wythnosol a ddefnyddir i gyfrifo swm y grant gofal plant a delir i fyfyriwr cymwys.  Y ffigur y mae’r Rheoliadau hyn yn nodi y dylid ei amnewid yw “£138.31”, ond y ffigur sydd wedi’i gynnwys yn Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 yw “£138.81”.

Rhinweddau: craffu

Nodwyd y 3 pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae Pennod 2 o Rannau 2 a 4 yn diwygio rheoliadau cymorth i fyfyrwyr er mwyn darparu bod dinasyddion Affganistan y rhoddwyd caniatâd iddynt ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig yn cael eu trin fel myfyrwyr cartref at ddibenion ffioedd a godir gan sefydliadau addysg uwch.  Mae Pennod 2 o Rannau 3 a 6 yn diwygio rheoliadau cymorth i fyfyrwyr er mwyn darparu bod yr un dinasyddion o Affganistan yn gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr.  Mae'r diwygiadau hefyd yn gymwys mewn perthynas â phartneriaid a phlant dibynnol y dinasyddion hynny o Affganistan.

Mae'r diffiniad a ganlyno o “bartner” dinesydd perthnasol o Affganistan wedi'i gynnwys yn y rheolau mewnfudo:

“276BK1. For the purposes of rules 276BA1-276BS5 a partner of a relevant Afghan citizen, including where the relevant Afghan citizen has already been granted entry clearance, leave to enter or remain or indefinite leave to enter or remain, is a person who:

(i)is the relevant Afghan citizen’s spouse; or

(ii)is the relevant Afghan citizen’s civil partner; or

(iii)has been living together with the relevant Afghan citizen in a relationship akin to a marriage or civil partnership for at least two years prior to the date of application.

Mae'r diffiniad hwn yn gymwys mewn perthynas â darpariaethau perthnasol y rheolau mewnfudo (paragraffau 276BA2, 276BS2, 276BJ2 a 276BO2) y cyfeirir atynt yn y diwygiadau a wnaed gan y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliadau 4(b), 7, 11(b) a 38(b) yn cyflwyno pedwar categori o ddinasyddion perthnasol o Affganistan sydd o fewn cwmpas y darpariaethau perthnasol.  Y pedwerydd o'r rhain yw unigolyn sy’n cael:

“indefinite leave to enter or remain in the United Kingdom outside the immigration rules as the spouse, civil partner or dependent child of a person falling into paragraph (g)* or dependent child of such a spouse or civil partner;”

* “paragraph (g)” is replaced with “paragraph (c)” in regulation 7 and “paragraph (iii)” in relation to regulation 38(b).

Mae’r ddarpariaeth yn berthnasol i briod neu bartner sifil yn unig ac nid oes cyfeiriad at unigolyn sydd â statws tebyg i baragraff 276BK1(iii) o’r rheolau mewnfudo (h.y. byw gyda’r dinesydd perthnasol o Affganistan mewn perthynas sy’n debyg i briodas neu bartneriaeth sifil am o leiaf ddwy flynedd cyn dyddiad y cais).  Nid yw’n glir o Gynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan a fyddai unigolyn o’r fath yn gymwys i gael caniatâd amhenodol i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig.

A yw’n fwriad polisi bod unigolyn sy’n byw gyda dinesydd perthnasol o Affganistan mewn perthynas sy’n debyg i briodas neu bartneriaeth sifil am o leiaf ddwy flynedd cyn dyddiad y cais y tu allan i’r cwmpas lle mae gan ei bartner ganiatâd amhenodol i ddod i mewn neu aros yn y Deyrnas Unedig, y tu allan i'r rheolau mewnfudo ar sail Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan?

3. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae rheoliad 39 yn diwygio Atodlen 4 i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 drwy fewnosod paragraff 13F newydd.  Ym mharagraff newydd 13F(2) mae cyfeiriad at “fyfyriwr cymwys”, tra bod pob cyfeiriad arall ym mharagraff 13F(1) yn gyfeiriadau at “fyfyriwr ôl-raddedig cymwys”.  Defnyddir y ddau derm diffiniedig mewn cyd-destunau gwahanol yn Rheoliadau 2018.

4. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae’r Pwyllgor yn nodi ei fod wedi adrodd yn flaenorol ar ddiwygiadau i Reoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014 a wnaed gan Reoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2021.

Nododd adroddiad y Pwyllgor ar y Rheoliadau 2021 hynny bwynt rhinwedd mewn perthynas â’r diffiniad o “person granted leave to remain as a protected partner”.  Cafwyd ymateb gan y Llywodraeth mewn perthynas â’r pwynt rhinwedd hwnnw ar 3 Rhagfyr 2021.  Roedd yr ymateb yn nodi fel a ganlyn:

“The first sub-paragraph of the definition of “person granted leave to remain as a protected partner” should have included reference to paragraph 289D of the immigration rules.  The Government will look to schedule an amendment in an appropriate future instrument.”

Gan fod y Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014, efallai eu bod wedi bod yn offeryn priodol yn y dyfodol ar gyfer dwyn y cywiriad ymlaen.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

8 Chwefror 2022